top of page

Canllawiau ymgeisio

Canllawiau ymgeisio ar gyfer Cynllun Haf y Gyfraith 2025

Bwriad YAGAED a Chymru’r Gyfraith wrth redeg y Cynllun Haf ydy i annog pobol ifanc o Gymru, neu sydd â chysylltiadau cryfion â Chymru i “Anelu’n Uchel”. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn y gyfraith, rydym ni yma i’ch atgoffa a’ch sicrhau na ddylai unrhyw awrgym o “beidio a dod o’r cefndir iawn” eich rhwystro! Mae meini prawf dethol ein Cynllun Haf yn adlewyrchu hynny.

 

Bydd angen cwblhau tair ffurflen ar y wê:

  1. y ffurflen ymgeisio,

  2. y ffurflen rhieni/warchodwr; a’r

  3. ffurflen i athrawon.

Os oes gennych chi, eich rhieni/warchodwr neu athrawon unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag ysgrifennydd YAGAED trwy yrru e-bost at ledletsecretary@outlook.com.

Meini prawf gofynnol

Gallwch ymgeisio i gymryd rhan ar Gynllun Haf YAGAED – Cymru’r Gyfraith os ydy’r ddau maen prawf isod yn gymwys i chi:

 

  • Rydych chi’n ddisgybl blwyddyn 12, a byddwch o dan ddeunaw oed ar ddiwrnod olaf y Cynllun.

  • Rydych chi’n byw yng Nghymru, neu mae gennych gysylltiadau â Chymru.

Yn ogystal â’r meini prawf gofynnol, rydym ni hefyd yn edrych am…

Fe fydd angen i chi egluro pam yr ydych yn haeddu eich lle ar y Cynllun. Yn benodol, dylech ddangos:

  • Pam y byddai cyfle fel y Cynllun Haf yn gyfle na fuasai’n bosib i chi ei ennyn fel arall (gan sicrhau eich bod yn datgelu a oes unrhywun yn eich teulu yn gweithio ym maes y gyfraith*).

  • Eich gallu academaidd.

  • Safon uchel o Gymraeg neu Saesneg.

  • Eglurdeb yn eich gwaith ysgrifenedig.

  • Ymrwymiad a dyfalbarhad i lwyddo.

  • Diddordeb yn y Gyfraith fel gyrfa yn y dyfodol.

 

*Bwriad pennaf y Cynllun Haf yw ceisio cynorthwyo rheini sydd heb unrhyw gysylltiad teuluol â maes y gyfraith. Felly, os oes unrhyw aelod o’ch teulu yn gwiethio ym maes y gyfraith, mae’n rhaid i chi ddatgelu hynny yn eich ffurflen cais ac esbonio’r amgylchiadau, fel y gall y rheini sy’n marcio eich ymgais benderfynu a oes angen arnoch y cymorth a roddir gan y Cynllun Haf ai peidio. Bydd unrhyw fethiant i ddatgelu eich cysylltiadau teuluol yn drylwyr bron yn sicr yn achosi unrhyw gynnig o le ar y Cynllun i’w gael i’w ddiddymu. Mae bodolaeth cysylltiadau heb eu datgelu yn tueddi dod i glawr yn gyflym. 

Materion eraill

Gallwch hefyd drafod pynciau eraill a fyddai o gymorth i ni wrth ystyried eich cais, megis:

  • Unrhyw weithgareddau all-gyrsiol

  • Unrhyw brofiad gwaith.

Dylech egluro sut yr ydych wedi dod ar draws unrhyw brofiad gwaith a ddarlunir uchod, oherwydd fe fydd eich mynediad i’r cyfleodd hyn yn berthnasol i sut bydd y Cynllun o fudd i chi. 

 

Cefnogi myfyrwyr sy’n gwynebu heriau neu sydd â llai o siawns i elwa o gyfleoedd.

Yn olaf, fe fyddwn yn ystyried (yn gadarnhaol), unrhyw heriau neu ffactorau a all effeithio’r cyfleoedd sydd ar gael i chi. Mae rhai enghreifftiau isod, ond carem pe byddech yn nodi unrhyw beth arall perthnasol sydd wedi / a fyddai’n gallu eich rhwystro rhag cyflawni eich llawn botensial.

 

Gall y rhain gynnwys:

  • Mae gennych anabledd

  • Rydych chi’n gofalu am rywun arall

  • Rydych chi’n yn / wedi bod, mewn gofal h.y. yng ngofal y wlad, gan gynnwys gofal maeth.

  • Chi ydy’r cyntaf yn eich teulu i anelu at addysg uwch.

  • Nid yw unrhyw aelod agos o’ch teulu yn gweithio mewn swydd broffesiynol neu reolaethol uwch

  • Dydych chi ddim yn derbyn unrhyw gymorth ychwanegol trwy’r ysgol (megis lle ar y Rhwydwaith Seren)

  • Rydych chi’n gymwys am ginio ysgol am ddim neu unrhyw gymhorthdal cymorth disgybl.

  • Unrhywbeth sydd wedi amharu ar eich gallu i ennill graddau uwch yn yr ysgol neu goleg.

  • Rydych chi’n byw mewn ardal sy’n ddifreintiedig yn economaidd.

  • Mae canlyniadau Lefel A eich ysgol neu goleg yn is na’r cyfartaledd.

  • Mae llai o niferoedd na’r cyfartaledd o ddisgyblion eich ysgol neu goleg yn mynd yn eu blaen i Addysg Uwch.

  • Rydych chi’n byw mewn ardal sydd yn ei gwneud hi’n anodd i gwblhau profiad gwaith cyfreithiol.

 

Sut i gyflwyno cais

​​

Fel y nodwyd uchod, dylid llenwi a chyflwyno’r ffurflen ar lein.

Mae posib y bydd YAGAED / Cymru’r Gyfraith yn cysylltu â rhiant/gwarchodwr a/neu athro i wirio cynnwys eich cais.

Os nad ydych wedi derbyn cydnabyddiaeth o’ch cais erbyn 3 Mawrth 2025, cysylltwch a gweinyddwr y Cynllun trwy ledletsecretary@outlook.com ogydd.

 

Dyddiad cau y ffurflen gais ydy 9 Chwefror 2025.

LEDLET 

LEDLET is working with Legal Wales to inspire young Welsh people to 'Aim High'.

LEDLET is associated with Gray's Inn and the Association of London Welsh Lawyers.

Registered Charity: 1168785

Copyright: 2013 - 2023 Lord Edmund-Davies Legal Education Trust 

ledledtrust_logo_final_300px.png
ALWL_LOGO.jpg
LW-Logo-Final-CMYK-021120.jpg
Grays%20Inn_Crest%20Logo_RGB%20(2)_edite

© 2013-2024 LEDLET  |   Privacy Policy 

bottom of page